Mae BA (Anrh) Cerddoriaeth Boblogaidd yn rhaglen gyffredinol sy�n delio � pherfformiad a chyfansoddiad, theori a hyfforddiant clyw, patrymau hanesyddol, diwylliannol a diwydiannol o gerddoriaeth cyfoes.
Essential Info
O gwblhau�n llwyddiannus mae�r cwrs yn cynnig cyfleoedd gwych am waith pellach mewn un neu fwy o�r meysydd hyn, naill ai�n broffesiynol neu fel myfyriwr �l-radd. Yn ganolog i�n lleoliad unigryw mewn Cyfadran Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol mae ein gallu i gynnig cysylltiadau a phrosiectau ar y cyd � chyrsiau eraill cyfryngol megis drama, ffilm, teledu a newyddiaduriaeth yn ogystal � chysylltiadau � diwydiant drwy gwmn�au megis corfforaeth Roland. Bydd y cwrs hwn yn darparu cyfle arbennig i chi arbrofi ac astudio cerddoriaeth boglogaidd.
Mae ein t�m addysgu yn cynnig sgiliau yn y meysydd canlynol:
- Nifer o flynyddoedd o recordio proffesiynol a phrofiad perfformio
- Cyfansoddi ar gyfer y cyfryngau (gan gynnwys Drama, Dawns, Ffilm, Teledu, Radio)
- Cynllunio offerynnol a rhaglennu
- Perfformio proffesiynol cyfredol a gweithgareddau recordio
- Diddordebau a chyhoeddiadau ymchwil megis Frank Zappa; Cerddoriaeth a Thechnoleg; Addysgu, Dysgu a Pherfformio Byrfyfyr Rhydd; Jazz; Cerddoriaeth yn y Gymuned
How You Will Study
Er bod yr holl ddarlithoedd trwy gyfrwng y Saesneg, ceir cyfle i gynnal tiwtorialau, seminarau, grwpiau perfformio ac astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r cwrs yn cynnig gwybodaeth hyblyg a chyffredinol o’r diwydiannau cerddorol a sut i weithio yn y diwydiannau hynny. Anogir myfyrwyr i ddatblygu eu diddordebau cerddorol eu hunain yn feysydd o arbenigedd megis cyfansoddi byrfyfyr, cyfansoddi ar gyfer y cyfryngau neu gerddoriaeth ar gyfer y theatr.
Prospects
Possible Career Options
Mae myfyrwyr sydd wedi graddio’n ddiweddar nawr yn hyfforddi a gweithio fel hyrwyddwyr cerddoriaeth, athrawon ysgol, tiwtoriaid cerddoriaeth cymunedol, cerddorion proffesiynol ar eu liwt eu hunain, neu myfyrwyr ôl-radd.
Ym mis Mehefin 2007 ysgrifennodd pedwar myfyriwr ail flwyddyn Gerddoriaeth Boblogaidd sgoriau ar gyfer myfyrwyr ffilm yr ATRiuM, ffilmiau a ddangoswyd yn sinema’r Chapter. Ym mis Chwefror 2008, creodd aelod o’r staff a phedwar myfyriwr sgôr ar gyfer ‘Y Brenin Oidipos’, cynhyrchiad cwmni theatr yr ATRiuM. Ers hynny, recordiodd y tîm y gerddoriaeth honno a gofynnwyd iddyn nhw ei hail-berfformio mewn cynhadledd ar Addasu ar gyfer y Theatr ym mis Mehefin 2008. Ar hyn o bryd, mae un o’n myfyrwyr israddedig yn gweithio yn hyrwyddo a threfnu ei noson lwyddiannus iawn ym Mar Buffalo Caerdydd. Yn yr ATRiuM mae:
5 stiwdio recordio, 4 ystafell fawr ar gyfer ymarfer, 12 ystafell ymarfer ac addysgu offerynnau, 2 labordy gorsaf waith yn cynnwys dros 40 o orsafoedd gwaith.
