Mae’r radd Theatr a Drama yn adlewyrchu’r egwyddorion canolog a’r disgyblaethau amrywiol sydd wedi diffinio a dylanwadu ar berfformiadau byw. Mae’r cwrs hwn yn cynnig rhaglen astudio sy’n creu cyswllt rhwng ymarfer a theori, traddodiad ac arloesedd, a chreadigrwydd personol a phrosiectau ar y cyd
Essential Info
“Y mae’r ffaith bod Prifysgol Morgannwg yn darparu llwybr dwyieithog mewn drama yn wych. Iaith yw meddiant pwysicaf person; mae bod yn DDWYieithog yn cyfoethogi’r person hwnnw. Mae bod yn Gymro Cymraeg nid yn unig yn fater o falchder personol ond mae hefyd, o ran fy swydd yn golygu fy mod i’n fwy hyblyg. O ran Morgannwg, mae’n hynod bwysig i mi bod Cymry Cymraeg yn cael y cyfle i gael yr addysg orau bosib yn eu hiaith eu hunain – a hynny yn un o adeiladau mwyaf arloesol Cymru ac Ewrop”. Yr actor Daniel Evans, athro gwadd i’r ATRiuM.
What You Will Study
Yn dy flwyddyn gyntaf byddi di’n astudio amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys dyfeisio, cyfarwyddo, actio, sgriptio, dylunio theatr, theatr gorfforol, dadansoddi drama, a gweithio’n amlgyfrwng. Mae’r cyflwyniad eclectig hwn yn rhoi i ti’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen er mwyn dewis ym mha feysydd rwyt ti eisiau arbenigo ynddynt yn dy ail a’th drydedd flwyddyn. Yn dibynnu ar gyfuniad y modiwlau a ddewisi, gelli ddewis cynhyrchu perfformiad ensemble fel rhan o’n gŵyl theatr myfyrwyr flynyddol, actio mewn cynhyrchiad theatr wedi’i gyfarwyddo neu’i ddylunio a’i reoli, cynnal prosiect ymchwil unigol ar bwnc o’th ddewis, neu gwblhau sgript hyd llawn y gellir ei berfformio fel darlleniad ymarfer.
How You Will Study
Strwythurir y cwrs hwn mewn modd sy’n sicrhau bod damcaniaethau, confensiynau a’r ffyrdd o astudio y canolbwyntir arnynt yn y dosbarth yn cael eu harchwilio drwy gyfrwng gwaith academiadd ac ymarferol. Defnyddiwn amrywiaeth o ddulliau addysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, ymarferion dwys, dosbarthiadau meistr gydag ymarferwyr gwadd, fforymau ar y we, prosiectau profiad gwaith a hyfforddiant ymarferol gydag offer technegol. Mae’r gwaith a gyflwynir gan ein myfyrwyr i’w asesu yr un mor amrywiol ac yn cynnwys cyflwyniadau cynhadledd, portffolios ar-lein, myfyrdod ar arfer a chynnal gweithdai, yn ogystal â thraethodau a gwaith perfformio.
Prospects
Possible Career Options
Mae graddedigion Theatr & Drama yn dilyn amrywiaeth eang o yrfaoedd. Caiff llawer eu cyflogi yn niwydiannau presennol adloniant y cyfryngau, mae eraill yn dewis cychwyn eu cwmnïau cynhyrchu eu hunain, ac mae rhai yn dewis mynd i addysgu. Mae natur hyblyg a chynhwysol y cwrs yn sicrhau bod gan ein graddedigion amrywiaeth ddatblygedig iawn o sgiliau trosglwyddadwy, sy’n gwella eu cyflogadwyedd a’u posibiliadau gyrfa. Mae hefyd gan fyfyrwyr yr opsiwn i astudio ymhellach drwy wneud cais i ddilyn un o’n cyrsiau ôl-radd. Mae sawl cynllun MA ar gael yn yr Adran (MA Drama ac MA Sgriptio) yn ogystal â chyfleoedd i wneud cyrsiau ymchwil.
