Mae�r cwrs Technoleg Sain yn delio ��r disgyblaethau hanfodol proffesiynol, gan gynnwys recordio, r�l sain ym maes darlledu a ffilm, ac acwstig gofodau perfformio a�u cynllun.
Essential Info
Byddwch yn ennill gwybodaeth a sgiliau technegol o�r radd flaenaf mewn peirianneg sain gan gynnwys recordio ar gyfer radio, ffilm a fideo, peirianneg sain byw a chynllunio gofod perfformio.
Hefyd, fe�ch anogir i ystyried eich diddordebau ymhob un o�r meysydd hyn a chael profiad o weithio mewn ystod eang o sefyllfaoedd. Bydd y cwrs hwn hefyd yn darparu sail dda mewn technolegau�r cyfryngau fel y byddwch yn graddio gyda gwybodaeth gytbwys o feysydd eraill o dechnoleg sain.
What You Will Study
Blwyddyn Un y Cwrs
Byddwch yn datblygu sgiliau technolegol sylfaenol a dealltwriaeth, fel y gallwch ddefnyddio’r offer a’r cymhwysiad priodol i wella’ch gwaith. Meysydd astudiaeth: peirianneg sain, sain ar gyfer radio, sgiliau gwrando a chynhyrchu, synthesis a sain cyfrifiadurol, ac electroneg ymarferol.
Ail Flwyddyn
Byddwch yn ennill profiad ymarferol o recordio, cymysgu ac ailgymysgu ar systemau digidol. Byddwch yn cynyddu’ch gwybodaeth o systemau cerddoriaeth seiliedig ar gyfrifiadur a’u cymhwyso i’r cyfryngau ac electroneg a fydd yn berthnasol i’r diwydiant sain a cherddoriaeth. Byddwch hefyd yn dysgu am ochr fusnes cerddoriaeth, peirianneg sain ar gyfer cerddoriaeth fyw, cytundebau, hawlfreintiau a sut i gael gwaith.
Trydedd Flwyddyn
Gallwch astudio modiwlau arbenigol mewn peirianneg recordio, sain byw, systemau PA, cynllun ac acwstig gofod perfformio, ac ymgymryd â phrosiectau mawr. Gallwch hefyd ddewis canolbwyntio ar un agwedd o dechnoleg sain, yr agwedd lle mae gennych fwyaf o ddiddordeb ynddi.
How You Will Study
Oherwydd natur ymarferol y cwrs, rhoddir pwyslais mawr ar waith ymarferol a sut mae’n cysylltu â’ch diddordebau. Mae’r cwrs yn cynnwys elfen sylweddol o weithdai a gwaith grwp lle bydd rhaid cyflwyno aseiniadau, a cheir asesu parhaus. Mae’r fframwaith hwn yn caniatáu i chi ddatblygu’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa ym maes sain.
Prospects
Possible Career Options
Mae’r cwrs hwn yn paratoi myfyrwyr yn benodol ar gyfer cyflogaeth a hunangyflogaeth yn y diwydiannau cerddoriaeth a’r cyfryngau ac mewn diwydiannau fel gêmau cyfrifiadurol neu aml-gyfryngol a chwmnïau teledu. Mae gan raddedigion y cwrs hwn gefndir cadarn a gallant symud i mewn i’r maes proffesiynol gan ddefnyddio’u sgiliau ymarferol ac academaidd.
